Mae modd osgoi'r broblem drwy ddweud 'llond dwy lwy' a 'llond dwy drol', a
byddwn i'n rhyw feddwl mai'r rheiny fyddai'r ffurfiau safonol.
Rwy'n cofio rywdro i mi geisio dyfalu ai 'dwywaith cymaint' neu 'dwywaith
gymaint' oedd yn gywir, ond yr unig gyngor y gallwn ei gael o'r llyfrau
gramadeg oedd dweud 'cymaint ddwywaith'. Erbyn hyn, mae Geiriadur yr Academi
yn caniata+u 'dwywaith gymaint', ond rwy'n rhyw feddwl mai dylanwad y
Saesneg sy'n ein cymell i ddweud 'dau/dwy lond llwyaid' ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 15, 2002 11:26 PM
Subject: Re: two cartloads
> Gwen Evans <[log in to unmask]>:
> > Benywaidd ydy trol, a llwy de hithau. "Dwy lond llwy de os gwelwch yn
> > dda!" - neu 'dwy lwyaid'.
> > Ydy 'Dwy drolaid os gwelwch yn dda!' yn swnio'n rhyfedd? - ydy mwn.
>
> Ie, ond gwrwaidd ydy llon(ai)d, beth bynnag fo'n llawn.
> Dau lond trol, dau lond llwy, ond dwy lwyaid.
>
|