Byddaf yn cyfieithu 'Town Police Clauses Act 1947' fel 'Deddf Cymalau
Heddlu Tref 1847'. O ddilyn yr un patrwm, byddai 'Town Improvements
Clauses Act 1847' yn 'Ddeddf Cymalau Gwelliannau Tref 1847', a 'Waterworks
Clauses Act 1847' yn 'Ddeddf Cymalau Gweithfeydd Dwr 1847'.
Bu 1847 yn flwyddyn fawr yn hanes llywodraeth leol, mae'n amlwg.
Gyda llaw, mae Gorchymyn safonol Cyngor Conwy dan y Ddeddf Cymalau Heddlu
Tref yn cynnwys yr ymadrodd hyfryd canlynol, mewn perthynas â chau stryd
dros dro i bwrpas cynnal ffair a.y.y.b.:
"... during the period between [amseroedd, a dyddiad], [enw stryd] will be
the subject of public rejoicing, and will be thronged and liable to
obstruction."
Yn Gymraeg:
"... bydd [enw'r stryd] yn lleoliad dathlu cyhoeddus, ac fe fydd yn orlawn
ac yn debygol o ddioddef tagfa."
|