Rhodri Jones:
> Mae'r uchod yn egluro yr hyn gellir ei wneud i ddogfen gyfrifiadurol er
> mwyn atal rhywyn arall rhag altro'r data.
Berwyn Jones:
>> 'Diogelu rhag ysgrifennu' yw'r term (afrosgo braidd) yn Ngeiriadur yr
>> Academi ac yn y Geiriadur Termau Cyfrifiadureg a gyhoeddwyd gan MEU ym 1992.
Dafydd Tomos:
> Newydd feddwl, mae 'read only' yn golygu'r un peth, felly fe fyddai
> 'darllen yn unig' yn ddewis arall.
Efallai bod 'darllen yn unig' yn opsiwn yn yr achos hwn ond nid yw'n golygu'r un peth a 'diogelu rhag ysgrifennu' yn gyffredinol.
Er enghraifft ar y cyfrifiadur sydd wrth fy ochr mae'n bosib diogelu ffeiliau rhag ysgrifennu, darllen neu redeg.
Neil Shadrach
|