teulu lewis wrote:
>
> gweler Geiriadur yr Academi am blister. Gair Gogleddol llafar yw
> swigen/swigod - rhai sebon, moch, broc mor, ar sawdl - pob math o
> swigod! Yr hen Gogs ma yn trio cymryd y byd drosodd eto!
> Mewn cyd-destun coginio, bubble yw ffrwtian, yn hytrach na byrlymu.
> Byrlymu mae fy spa newydd fodd bynnag! Tydi iaith yn beth diddorol!
Diolch yn fawr. Dwi'n gyson yn ceisio disgrifio
sut i ddefnyddio geiriau'n gywir yn fy ngeiriadur.
Dwi eisiau tipyn mwy o eglurhad:
Fyddai hi'n iawn i ddweud bod swigod yn nes at
Saesneg "suds"? Ddylwn i ei nodi fel gair
gogleddol yn unig?
Yn o+l fy ngeiriadur, berf yw ffrwtian, er nad
oes gen i ddiffiniad. Ydy ei ystyr yn debyg i
ystyr berwi? Ydy o'n hefyd yn cael ei ddefnyddio
fel enw?
Diolch eto!
--Mark
|