Go brin bod a wnelo "nogio" ddim a "mug".
Gair a ddefnyddid yn wreiddiol ac a ddefnyddir o hyd, yn bennaf i ddisgrifio
ceffyl sy'n gwrthod symud. Y tebyg yw ei fod yn dod o'r Saesneg "horse with
*no go* in him", "it's a no go", ac mae berf wedi ffurfio o "no-go" yw
nogio."
Bruce
Mae 'na air Saesneg cyfateb, sydd unwaith eto'n ymwneud a+ byd ceffylau, sef
"jib (at)", gwrthod mynd ymlaen - "He jibbed at/refused the second fence",
sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio'n ffiguraidd, "I jib at paying so much for
something I'll hardly use". Mae "jibo" yn cael ei ddefnyddio yn y De,
meddai Bruce (mae yn y Geiriadur o dan "refuse", ond nid dan "jib" - tan yr
argraffiad nesaf!).
Ann
|