Mae 'swigen' yn tarddu o 'chwysigen' ac yn fwy cyffredin ar lafar am
'bubble' na 'bwrlwm'. Mae 'bwrlwm' yn cael ei arfer yn fwy haniaethol am
sw^n neu gyffro, mewn ymadrodd fel 'bwrlwm bro', neu'r defnydd cyfoes o
'buzz' yn Saesneg.
Delyth
----- Original Message -----
From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 07, 2002 3:49 PM
Subject: Re: Bubble-wrap
> teulu lewis wrote:
> >
> > Papur swigod oedd enw fy mhlant i ar y deunydd gwych hwn. Nid lapio dim
> > oeddynt da chi'n dallt, ond chwarae hefo fo, am oriau. Triwch o rhyw
> > dro - gwell na Valium unrhyw ddydd. Lapio rhywbeth mewn papur swigod
> > fyddwn i'n ei ddweud debyg - ond dwi'n hoffi swigod lapio.
> > magi
>
> Enw newydd imi yw "swigod". Ydy o'n tarddu
> o air "ysgwigen"? Am wn i, y gair Cymraeg am
> "bubble" yw "bwrlwm".
>
> --Mark
>
|