Annwyl Gyfeillion
Fel Swyddog Iaith Gymraeg Archwiliad Dosbarth (District Audit) mi fyddaf yn defnyddio'r geiriau craffu ac archwilio yn aml.
Rydym yn defnyddio Pwyllgor Craffu am Scrutiny Committee a Pwyllgor Archwilio am Audit Committee.
Er fod pobl yn fwy tueddol o ddeall archwilio yn hytrach na chraffu, mae hi wedi dod i'r pwynt ble gwelir audit a scrutiny yn yr un frawddeg yn aml iawn.
O ganlyniad i hyn, teimlaf y dylid defnyddio Pwyllgor Craffu a Pwyllgor Archwilio.
Cofion
Rhodri
>>> [log in to unmask] 01/15/02 09:12am >>>
> Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin defnyddiwn pwyllgor archwilio am scrutiny
> committee ac archwilio hefyd am audit. O dan y drefn newydd bydd gennym
> scrutiny committe ac audit committee. Yn ôl un o'n cynghorwyr mae'r
> Cynulliad yn defnyddio pwyllgor craffu am scrutiny committee ac mae ef yn
> awyddus ein bod ni'n gwneud yr un fath er mwyn cysondeb. Tybed beth mae
> pawb arall yn ei ddefnyddio am scrutiny committee a beth yw eich barn am
> ddefnyddio craffu am scrutiny a chadw archwilio am audit?
>
>
|