On Wed, Jan 23, 2002 at 04:10:14PM +0000, Gareth Bevan wrote:
> atal ysgrifennu, atal darllen, atal rhedeg?
Y broblem sydd gen i gyda hyn yw fod 'write-protected' wedi cael ei
ddefnyddio yn bennaf ar gyfer caledwedd, e.e. slot plastig ar ddisg
feddal neu disg Zip/Jaz ayyb
Mae dau ddewis wrth symud y swits - un sy'n caniatau unrhyw newid i'r
ffeiliau ar y disg ac un sy'n atal unrhyw fath o newid i'r disg. Mae
yna rhai wedi defnyddio y term ar gyfer ffeiliau hefyd, ond does dim
rhaid parhau'r dryswch sydd wedi codi.
Wrth son am ganiatad sydd ar ffeil unigol o fewn system ffeilio, mae'r
safbwynt yn wahanol - mae'n bosib 'rhoi caniatad' i wneud nifer o
bethau yn dibynnu ar fformat y system ffeilio:
ysgrifennu, darllen, rhedeg, archifio, cywasgu ayyb
Yn gyffredinol, mae'n bosib cael unrhyw gyfuniad o rhain. Dylid
dechrau gyda sefyllfa lle nad oes caniatad i wneud dim byd, wedyn
caniatau darllen, caniatau ysgrifennu, caniatau rhedeg os ydi'r ffeil
yn gôd deuol neu sgript.
Ond mae hyn i gyd yn dibynnu ar bolisiau diogelwch y system weithredu.
Mae 'atal ysgrifennu' yn golygu 'peidio a caniatau ysgrifennu' os ydym
yn son am system ffeilio cyfrifiadur, felly dwi'n meddwl fod angen
adlewyrchu hynny mewn unrhyw gyfieithiad.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|