Mae'n dibynnu i ryw raddau a yw'r corff yn weithredol yng Nghymru, a ydw
wedi mabwysiadu teitl Cymraeg neu a oes un yn gyffredin ar lafar. Yn
anffodus, 'dyw Bruce ddim yn cofio sut ddaeth o at "Glwb Rotari", ond mae'n
ddigon posibl, meddai fo, ei fod o wedi'i weld yn rhywle.
Dw i'n ceisio gofyn i'r cwsmer ei hun, neu i'r corff ei hun, beth sydd orau
ganddo, ond yn aml iawn mae'n anodd cael pobl i sylweddoli mai gofyn am
deitl y corf yr ydwyf, nid gofyn i "someone in the office who speaks Welsh"
gynnig ei gyfieithiad ei hun o'r teitl Saesneg!
Ann
|