'Rwyf wedi cael caniatad David Thomas i basio hwn ymlaen.
----- Original Message -----
From: "Thomas, David A" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>; <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 17, 2001 11:48 AM
Subject: RE: drive
> Mae'n flin 'da fi ddanfon hyn yn syth atoch chi ond am ryw reswm technegol
> alla'i ddim ymateb i'r grwp (a heb fod wedi gallu gwneud ers bron i
flwyddyn
> gron).
>
> Mae hyn yn hen broblem i mi o ran y cyngor ac enwi strydoedd. Mae'r
Swyddfa
> Bost ond yn addo i ddanfon post wedi'u cyfeirio yn Gymraeg os yw'r
awdurdod
> lleol wedi eu hysbysu am strydoedd dwyieithog ac ar yr un pryd wedi codi
> arwydd stryd gyda'r ddau fersiwn ar ddangos.
>
> O ran yr un enw'n bodoli yn Gymraeg mewn un ardal ac yn Saesneg mewn rhan
> arall, rydw i'n ceisio llywio'r dewis enwau i osgoi y fath beth, gan
efallai
> bydd rhaid derbyn enwau dwyieithog o strydoedd Cymraeg hefyd yn y dyfodol.
> Mae Cyfle Cyfartal yn gweithio'r ddwy ffordd ac mae'n sefyllfa anodd iawn
i
> ddelio â hi os yw'r Cymry Cymraeg yn mynnu cyfieithu enwau eu strydoedd
ond
> wedyn yn gwrthod derbyn yr un ddadl yn eu herbyn.
>
> Does gen i ddim syniad o sut bydd y broblem hon erioed yn cael ei datrys i
> fodloni pawb. Dwi'n hunan wedi drysi gan fy mod i fel aelod o'r cyhoedd
yn
> cyfieithu fy nghyfeiriad cartref, er i mi wybod o ran gweithio i awdurdod
> lleol y fath broblemau mae hyn yn gallu arwain atynt.
>
> Efallai mai nid y llwybr i oleuni yw'r awdurdodau lleol, ond mae rhai
ohonom
> yn trio!
>
> Swyddog Polisi (Iaith Gymraeg) Policy Officer (Welsh Language)
> Uned Polisi Policy Unit
> Estyniad 4353 Extension 4353
> Ffôn 01443 864353 Tel. 01443 864353
>
> [log in to unmask]
>
> > ----------
> > From: Ann Corkett[SMTP:[log in to unmask]]
> > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary including
> > Sent: 17 December 2001 11:43
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: drive
> >
> > Fyddwn i ddim yn "cyfieithu" enw stryd o gwbl, ond yn gwneud ymholiadau
> > ynghylch ei henw Cymraeg. Ar wahan i'r anawsterau arbennig sy'n perthyn
i
> > Gaerdydd, ac a drafodwyd ychydig wythnosau'n ol, mae 'na enwau fel
> > Princess
> > Street/Heol Rhosmari yn Aberystwyth, sy'n hollol wahanol.
> >
> > 'Dw i'n meddwl mai'r cyngor sir lleol yw'r awdurdod yn y pethau hyn, a
bod
> > y
> > swyddfa post i'w ddilyn ef.
> >
> > Ann
> >
>
|