Rhobin Cas oedd Johnson Street, Ponciau bob amser ers talwm. Roedd maes
cloddio am lo 'yr open cast' yma . Mae'r enw ar yr arwyddion swyddogol erbyn
hyn.
A chan ein bod yn yr ardal- ga i wneud cais ,os gwelwch yn dda, am i
gyfieithwyr roi Y Mwynglawdd am Minera ac Yr Eglwyseg am World's End yn
lle'r enwau Saesneg (/ Lladin ?) sy'n ymddangos mewn cyfieithiadau ac hyd
yn oed mewn dogfennau Cymraeg gwreiddiol ? Maen nhw'n enwau sy'n dal yn fyw
yn yr ardal, dwn i ddim os ydyn nhw'n 'swyddogol'
Nadolig Llawen
.
----- Original Message -----
From: "Meinir Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 17, 2001 12:28 PM
Subject: Re: drive
>
> Tydy enwau strydoedd ddim bob amser yn cyfateb rhwng y naill iaith a'r
> llall - yng Nghaernarfon er enghraifft, Stryd Pedwar a Chwech (yr un
> enwog!!) ydy Northgate Street, a Mountain Street (dwi'n credu) ydy Pentre
> Newydd (Bridge Street = Y Bont Bridd, Stryd Porth Mawr = High Street ayb).
> Dwi'n meddwl bod hyn oherwydd fod yr enwau swyddogol gwreiddiol yn
Saesneg,
> a'r enwau Cymraeg yn rhai fyddai'n cael eu harfer ar lafar gwlad gan y
> werin (mae nhw'n dueddol o fod llawer iawn mwy disgrifiadol), sydd bellach
> yn cael eu derbyn yn 'swyddogol'.
>
> Difyr 'te!
>
> Meinir
>
>
----------------------------------------------------------------------------
----
> Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a
enwir yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os
ydych wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred
yn seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar
unwaith os gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn
derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw
feirws meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y
bo'r angen cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon.
>
> This electronic mail transmission is intended for the named recipients
only. It may contain private and confidential information. If this has
come to you in error you must take no action based upon it, nor must you
copy it or show it to anyone; please telephone us immediately and
return the original to us. We cannot accept any liability for any loss
or damage sustained as a result of software viruses. It is your
responsibility to carry out such virus checking as is necessary before
opening any attachment which may be included with this message.
>
|