Y duedd yw i boblddefnyddio 'system' ar gyfer pethau mwy haniaethol, fel
e.e. 'system seinegol', a'r gair 'cyfundrefn' lle rydym yn sôn am gorff neu
gasgliad o gyrff neu sefydliadau, e.e. 'cyfundrefn addysg.' Fe allai 'corff'
fod mor annelwig ag ysgol bocar, neu mor ffurfiol â'r Cynulliad
Cenedlaethol. P'un bynnag, gallai 'cyfundrefn' gynnwys y rhychwant y rhain a
phob dim rhyngddyn nhw.
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, December 04, 2001 10:31 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: organisation
Wn i ddim faint o gyfiawnhad sydd am hyn, ond tueddaf i ddefnyddio
"sefydliad" yn yr achosion hynny'n unig lle na fyddai o'i le i alw'r corff
yn "institution" yn y Saesneg. Yn yr un modd, a fyddai'n gwneud synnwyr i
gyfieithu "mudiad" yn o+l fel "movement", "corff" fel "body"? Mae'n amlwg
fy mod i'n dal i feddwl fel Saes (sori, Saesnes).
"Cyfundrefn"yw'r gair ar gyfer "organisation" meddai Bruce, yn arbennig gan
fod pobl yn defnyddio "system" ar gyfer "system".
Ann
|