Diolch. Dwi'n dal yn ansicr ynghylch 'Return'. Rydych chi'n dweud nad oes
angen cyfieithu |
|
<--|
fel symbol, ond beth am y gair ei hun? Rydych yn cynnig cyfieithiad am
'Enter', ond dwi ddim am roi hwn os ydy'r ddau beth yn wahanol.
Diolch
Gwen
-----Original Message-----
From: Richard Hughes
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 20 December 2001 12:05
To: [log in to unmask]
Subject: Return
Ysgrifennodd Gwen Rice <[log in to unmask]>:
>Mewn cyd-destun cyfrifiadurol: 'the Return button'. Oes cynigion gan unrhyw
>un? Am fod hwn yr un peth ag 'Enter' ac am nad yw'r naill air na'r llall yn
>ymddangos ar y bysellfwrdd, mae'n debyg iawn y gellid ei gyfieithu...
1). Nid y^nt yr un pethau o gwbl.
Mae'r 'Return button' yn cynhyrchu co^d 'xx' a'r 'Enter button'
yn cynhyrchu co^d 'yy'; gwneuthurwr y bysellfwrdd sydd yn penderfynnu
gwerthoedd 'xx'/'yy'; yn nodweddiadol y gadarnwedd sydd wedi ei llwytho yn y
bysellfwrdd fydd yn trawsnewid 'xx' yn 'aa' a 'yy' yn 'bb'; y gadarnwedd
sydd yn penderfynnu gwerthoedd 'aa'/'bb'; fe allant fod yn gyfartal ond
dim o angenrheidrwydd ac fe eill yr un bysellfwrdd cynhyrchu
codau gwahanol am yr un allwedd - yn dibynnu ar sut mae'r system gweithredu
wedi ei hymgychwyn ee:
'Return button' (yn wreiddiol 'carriage return')
co^d ASCII x'0d' (Windows/Unix/Linux/Solaris ayyb)
co^d ASCII x'15' (Prif gyfrifiaduron Fujitsu-Siemens/IBM)
'Enter button' (yn wreiddiol 'Enter/Send')
co^d ASCII x'0d' (Windows/Unix/Linux/Solaris ayyb)
co^d ASCII x'03' (Prif gyfrifiaduron Fujitsu-Siemens/IBM)
2). Fel arfer, ymddengys y geiriau 'SEND' a/neu 'ENTER' ar 'the Enter
button' a'r symbol | ar 'the Return button'.
|
<--|
Mi fuaswn yn cyfieithu 'the Enter button' fel 'yr allwedd mewnbynnu'
neu 'mewnbwn' neu 'mewnbynnu';
nid oes angen cyfieithu |
|
<--|
Amen.
Gan obeithio cynorthwyo.
Richard Hughes
Gesellschaft beratender Informatiker
Muenchen
Yr Almaen
|