On Mon, Dec 17, 2001 at 10:53:37AM -0000, Bullock, David (OCG) wrote:
> Mae sawl dadl ymarferol dros beidio â chyfieithu enwau strydoedd ac ati.
>
> I ddechrau, mae'r gwasanaeth post yn ddigon gwael fel y mae, heb ddisgwyl
> iddyn nhw gyplysu "Rhodfa'r Ficerdy" ar amlen â "Vicarage Drive" ar arwydd
> swyddogol y stryd.
>
> Hefyd, bwrwch fod gan Gaerdydd "Oak Street", a chithau'n trosi'r enw yn
> "Heol y Dderwen" ... heb sylweddoli fod Heol y Dderwen ar gael yng
> Nghaerdydd eisoes. Pa obaith sy gan fechgyn a merched y Post wedyn?
Mi alla'i ddanfon llythyr i "Mr Puw, 5, CF1 5AB" neu i "Ty Ni, LL57
8CH" neu "NTL House, CF11 0WW" a fe gaiff ei ddidoli yr un mor gyflym
beth bynnag arall sydd ar yr amlen. I ddweud y gwir, mae lleihau yr
amwysedd yn y cyfeiriad yn well os allwch chi wneud yn siwr fod y côd
post yn gywir ac yn glir.
Oce, mae'n llai rhamantus, ond mae'n gweithio.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|