'Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993', mae'n debyg, er
bod y Gymraeg yn awgrymu bod y ddeddf yn diwygio Hawliau Cyflogaeth hefyd.
(Mae'n ddigon tebyg ei bod hi wedi gwneud hynny.) Fe ges i fy nhemtio i roi
'Diwygio'r Undebau Llafur' ond efallai y byddai'r fannod ychydig yn
gamarweiniol gan y byddai'r ddeddf yn gymwys i undebau llafur a oedd heb eu
sefydlu ar y pryd.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Bethan Evans" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 04, 2001 3:41 PM
Subject: The Trade Union Reform and Employment Rights Act 1993
> Unrhyw syniadau? Dwi wedi bod ar y wefan, ond wedi methu gweld y Gymraeg!
> Diolch
> Bethan
>
|