I ychwanegu at yr hyn a ddywedais neithiwr, mae Cerddoriaeth y Byd?? er ei
fod yn golygu cerddoriaeth o bob rhan o'r byd (ac sy'n cynnwys Llio
Rhydderch gyda llaw, yn ôl Radio 3) bellach yn cael ei alw yn "roots" gan
rai pobl. Er hyn, mae llawer ohono yn swnio fel pe byddai'n dibynnu llawer
ar gefndir Jazz /Lladin America. Roeddwn yn gwrando ar ddarn Affricanaidd o
Zimbabwe gyda rhythm bossa nova yn y cefndir heddiw, ar raglen "World Music"
Radio 3 o'r enw "Roots" - rydw i wedi drysu fy hun, felly pob hwyl!!
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, December 07, 2001 11:21 AM
Subject: "world music", "blues & roots"
> "world music" a "blues & roots"
> Rhyw syniad am y mathau hyn o gerddoriaeth ?
> Diolch
> Sian
>
|