Yn yr hen ddyddiau, wrth gwrs, bydden nhw'n treiglo mewn cyfuniadau fel
'Eglwys Loegr'. Byddwn i'n hunan yn ddigon parod derbyn 'ffair gaeaf'
petai'n golygu '(unig) ffair y gaeaf', ond erbyn heddiw mae ffeiriau gaeaf
yn bethau mor gyffredin fel nad oes modd honni bod unrhyw un ohonyn nhw'n
'ffair y gaeaf'.
Petaen ni ond yn gallu cael gafael ar y gwalch cyntaf ddechruodd dreiglo
wrth i'r Frythoneg droi'n Gymraeg ...! Cofiwch chi, mae Americanwyr wedi hen
ddechrau treiglo cytseiniaid yn feddal ynghanol eu geiriau, ac mae'r
Wyddeleg yn cynnwys cyflyrau (tebyg i'r Lladin) a threigladau!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 03, 2001 2:19 PM
Subject: Treilo ar ôl Uned
> Ers talwm, gwyddai pobl yn reddfol mae'n debyg beth a sut i'w dreiglo.
> Er enghraifft dyna i chi waith enwog gan Kate Roberts - Ffair Gaeaf.
> Byddai rhywun yn meddwl ei bod hi o bawb yn deall hanfodion gramadeg y
> Gymraeg. Ond wrth imi fynd heibio i Goleg Llysfasi, be welais i ond
> arwydd yn cyhoeddi bod 'Ffair Aeaf' i'w chynnal.
> Yng Nhyfansoddiadau ein Prifwyl, rhestrir gwahanol adrannau - er
> enghraifft Adran Cymraeg, Adran Cerddoriaeth. Dyna a welir hefyd yng
> ngholegau ein prifysgol. Ymddengys serch hynny fod ysgolion a
> sefydliadau is i lawr yr ysgol yn meddwl mai nhw sy'n gwbod orau a cheir
> ganddynt ac ynddynt ymadroddion fel Adran Gymraeg, Cyfadran Wyddoniaeth
> etc.
> Yn Elfennau Gramadeg Cymraeg Stephen J, does dim byd am dreiglo
> berfenwau ar ôl enw unigol benywaidd ond dyna mae pawb yn ei wneud
> heddiw. Mae'n ymddangos i mi fod yna duedd bellach i dreiglo pob un dim
> sy'n dilyn enw unigol benywaidd a dadlau fod yr ail air - boed yn enw
> neu'n ferfenw yn ansoddeiriol ei swyddogaeth. Beth am hen gystrawen y
> genidol?
> Come back Dr Kate ddweda'i i!
> John
>
|