'Sgrifennodd Richard Hughes
> Mae ystyr 'port' <berf> yn wahanol i 'port' <enw>.
>
> <berf> Mae 'symud' yn iawn ond nid yw'r gair yn cyfleu y maint na'r
> cymlhethdod o'r broses o 'symud' - i'r gwrthwyneb efallai - mae yn crybwyll
> bod y gwaith yn ddibwys; cyn belled ag y mae rhaglenni yn y
> cwestiwn gall hyn olygu bod y rheini yn cael eu hailysgrifennu.
>
> Gwell gennyf felly 'addasu' neu 'trosi' hyd yn oed.
Roeddwn wedi meddwl am hyn ddoe a dwi'n cytuno, os mai darn o
feddalwedd sydd dan sylw (neu system sy'n gyfuniad o feddalwedd a
chaledwedd arbennig).
Mae 'port' o feddalwedd yn debyg i symud drama o'r theatr i deledu -
mae'r stori yr un fath ond mae'r 'llwyfan' neu'r fframwaith yn
wahanol, felly 'addasiad' fyddai'r term gorau yn y ddau ystyr.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|