Cefais gais yn ddiweddar i gyfieithu rhestr winoedd ac fe anfonodd y cwsmer
gyfieithiad ata i o'i hen restr winoedd. Fel llwyrymwrthodwr, roeddwn i'n
falch iawn o weld cyfieithiad ymddangosiadol-awdurdodol! Roedd hi'n amlwg
bod y cyfieithydd wedi cael blas ar y gwaith .. ac, ie, 'gwin gwyn
lled-sych' oedd ganddo neu ganddi am 'medium white wine'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 05, 2001 12:26 PM
Subject: medium (gwin)
> A oes term am win "medium" - "offering dry, medium, sweet and sparkling
> wines".
> Clywais rywun yn dweud "cymedrol" ar y teledu neithiwr ond dydi hynny
> na "canolig" yn cyfleu'r ystyr yn union i mi.
> Ai "medium-dry" yw'r term cywir? Os felly, "lled-sych"?
> Sian
>
|