Y mae i'r gair ergyd arall hefyd, a honno sy'n asgwrn cynnen ymhlith llawer,
sef y duedd i ddileu nodweddion, arferion neu sefydliadau brodorol o
ganlyniad i ledaenu rhai o un neu dwy o wledydd yn benodol.
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Thursday, December 20, 2001 10:49 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Globalization
Trafodwyd hyn ym mis Mai 2000, a dyma ateb Bruce bryd hynny:
"'Rydym wedi cynnwys hwn yn yr ychwanegiadau nesaf:
globalisation n. lledaenu rhth trwy'r byd, bydehangu rhth."
Yn anffodus, 'roedd yn anodd dod ar draws y drafodaeth yn y cofnodion
oherwydd y pennawd - "holi am derm".
Felly, i) mae'n werth defnyddio pennawd ystyrlon;
ii) mae'n werth chwilio' cofnodion - dyma'r trydydd tro mewn ychydig
wythnosau y mae rhywun wedi codi cwestiwn sydd eisoes wedi bod yn bwnc
trafodaeth.
Mae'n ddrwg gen i am bregeth arall!
Dymuniadau gorau i bawb dros y Nadolig - yn arbennig i un sydd wedi priodi'n
ddiweddar ...
Ann
|