Gyda'n bod ni wrthi, oes gan rywun awgrym ar gyfer 'to port' yn yr ymadrodd
milwrol 'port arms'. Drilio yw'r pwnc dan sylw, a chyn i neb ddweud ni fydd
'cario', 'cludo' na 'dwyn' yn gwneud y tro o gwbl yn y cyd-destun yma.
Tim
-----Original Message-----
From: Glenys Roberts [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Thursday, December 06, 2001 12:27 PM
To: [log in to unmask]
Subject: to port
Oes rhywun yn gyfarwydd â 'port' fel berf ym maes TGCh? Y frawddeg sy'n fy
herio yw:
The current development which ports TeleOrdering to the Internet may deliver
considerable benefits.
Ydw i'n iawn mai 'cysylltu' o ryw fath yw'r ystyr? 'Cysylltu trwy borth'??
Yn wylaidd ddiolchgar am bob awgrym ac esboniad ...
Glenys
|