O ran cystrawen...
Sir + enw = treiglad.
Cyngor Sir + enw = dim treiglad.
O ran hanes, fe fydd unrhyw un oedd yn byw cyn 1974 yn cofio mai Cyngor Sir
Môn, Cyngor Sir Mynwy etc oedd y cynghorau gwreiddiol yn ddigon didrafferth
a diddadl.
Erbyn ein hoes ni, mae gyda ni ddwy broblem.
1. Mae gafael y rhan fwyaf o'r siaradwyr ar eu hiaith yn llai sicr, felly
dyn nhw ddim yn gallu dadansoddi cyfuniadau gweddol elfennol fel yr un yma.
2. Yn Neddf Ad-drefnu Llywodraeth Leol 199-rhywbeth a greodd yr
awdurdodau lleol diweddara, rhoddwyd caniatâd i'r awdurdodau ddewis eu henw
eu hunain. Mae'r Ddeddf yn rhoi rhyw fformwla barod ar gyfer creu'r enw,
ond drwy wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, roedd yna gyfle i'r
cynghorau newydd addasu'r enwau. Felly er bod y mwyafrif yn cadw'r ffurf a
roddwyd iddyn nhw drwy'r fformwla, mae ambell gyngor wedi newid eu henw.
Dyna sut y cawson ni Cyngor Sir Ddinbych yn mynd yn groes i bron pawb arall.
Enghraifft arall o ddywediad Bedwyr Lewis Jones am hawl y bobl leol i fod yn
yn anghywir efallai?
Original Message-----
From: catrin alun [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 21 November 2001 10:41
To: [log in to unmask]
Subject: Treiglo Enwau Siroedd
All unrhyw un fy ngoleuo ynghylch pryd i dreiglo enwau siroedd a phryd i
beidio â gwneud! e.e. Cyngor Sir Caerfyrddin/ Sir Gaerfyrddin? Sir Penfro?
Oes yna unrhyw reol? - h.y. oes treigliad lle nad yw'r gair 'Cyngor' yn cael
ei ddefnyddio?
Diolch
Catrin
_____________________________________________________________________
This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan service.
For further details, please see
http://www.gsi.gov.uk/main/gncnotices/gncinformationnotice5_2001.pdf, or
contact your departmental help desk.
The Message Labs trial has been extended until further notice.
In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.
|