Hwyrach y dylwn fod wedi dyfynnu'r frawddeg Saesneg a oedd yn cynnwys y gair
'given'. Dyma hi:
That the technology can be used for Welsh language course provision is a
given.
Y cyfieithiad a roddais oedd:
Cymerir yn ganiataol bod modd defnyddio'r dechnoleg i ddarparu cyrsiau
drwy'r Gymraeg.
Gan mai diffiniad geiriadur Collins o 'given' yw 'assumed as a premiss', ni
welaf fod dim o'i le ar y cyfieithiad uchod, ond fe ellid bod wedi dweud
'Rhagdybir bod modd defnyddio'r dechnoleg ...'.
Diolch i bob un ohonoch chi a wnaeth ymateb!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Richard Hughes" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 07, 2001 10:46 AM
Subject: given
> Y Ffurf(iau) Almaenig yw:
>
> Gegeben ist: x + y = 5
>
> neu
>
> Gegeben sind: x + y = 5
>
> und:
> x - y = 1
> (und:...)
>
> Tebyg i'r Saesneg felly.
>
> Beth sydd yn erbyn defnyddio y ffurfiau amhersonol o'r berfenw 'gwybod'
> yn y Gymraeg?
>
> gwyddys (presennol), gwybyddir (dyfodol), gwyddid (amherffaith),
> gwybuwyd (gorffennol), gwybuasid (gorberffaith), gwybydder (gorchmynnol).
>
> [Ac os yw'r mathemategwr yn ansicr o'i bethau gall defnyddio
> y ffurfiau amhersonol dibynnol gwyper (presennol) neu gwypid
(amherffaith)!].
>
> E.e.
> Gwyddys bod: x + y = 5
> ond
> Gwyper bod: e = 2.71828 18284 59045 23536 02874 71352 66249 77573
>
> Richard Hughes
> Gesellschaft Beratender Informatiker
> Muenchen
> Yr Almaen
>
|