Pan holais i ynglyn a'r term ces i'r ymateb "pa un?".
Mae'n debyg bod mwy nag un "konfederacja" yn y cyfnod dan sylw.
Oes mwy o fanylion?
> ----- Original Message -----
> From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: 01 November 2001 11:52
> Subject: Confederacy
>
>
> Beth fyddai'r ffordd orau o drosi'r term yma yng nghyd-destun hanes Pwyl cyn
> y Trydydd Rhaniad? Konfederacja yw'r term brodorol, yn golygu math o gyfamod
> rhwng dinesyddion er mwyn amddiffyn eu hawliau - yn debyg iawn i'r ionradh
> yng Nghyfraith Iwerddon ers talwm iawn. Mi wn fod 'Cydffederasiwn' wedi cael
> ei ddefnyddio ar gyfer mudiadau fel y CBI, a 'Cyngrair' a arferai Cymry Oes
> Victoria ar gyfer y Confederacy a ffurfiodd rhai Taleithiau Americanaidd
> wedi cilio o UDA, ond rhywbeth hollol wahanol yw hyn. Tybed a fyddai
> 'Conffederasiwn' yn Gymreigiad digon sâff?
> Tim
>
>
|