Richard - treiglad cyfarchiol neu beidio, mae'r ymadroddion yn swnio/edrych
yn chwithig heb y coma ar ôl y cyfarchiad. A oes modd dweud 'Dylai gyrwyr
cerbydau hir ffonio cyn croesi'? Mae'n naturiol ac yn osgoi'r broblem
dreiglo, ond fymryn yn hirach ac efallai nad yw'n ddigon o orchymyn. Piti
nad yw 'Gyrwyr cerbydau hir - ffoniwch cyn croesi' yn bosibl. 'Gyrwyr
cerbydau hir i ffonio cyn croesi'?
O gadw'r ymadrodd fel y mae, oes, mae'n siw^r bod angen y treiglad. Dyna
sy'n naturiol ar lafar o hyd - 'Blantos, edrychwch ar hwn' etc. Ond byddai'n
dda aralleirio er mwyn osgoi dechrau arwydd â ffurf dreigledig.
Glenys
----- Original Message -----
From: Crowe, Richard (OPO) <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 09, 2001 10:33 AM
Subject: arwyddion ffyrdd
> Tybed beth yw barn y cylch ar ddefnyddio'r treglad meddal cyfarchiol ar
> arwyddion ffyrdd? Beth sy'n gywir am (Drivers of long vehicles phone
before
> crossing?
>
> Gyrwyr cerbydau hir ffoniwch cyn croesi
>
> neu
>
> Yrwyr cerbydau hir ffoniwch cyn croesi
>
>
> Beth am arwyddion sydd fel petaent yn cyfarch wrthrychau di-fywyd? E.e.
> (Goods vehicles stop if directed)
>
>
> Cerbydau nwyddau stopiwch os gofynnir i chi
>
> neu
>
> Gerbydau nwyddau stopiwch os gofynnir i chi
>
>
> Ydy'r ddwy linell uchod yn dweud rhywbeth gwahanol?
>
>
> Oherwydd y rheolau sy'n pennu fformat arwyddion ffyrdd, nid yw'n bosibl
> defnyddio 'dashes' 'colons' etc.
>
>
> A oes angen y treiglad meddal cyfarchiol ai peidio? Os nad oes ei angen,
> beth yw'ch rhesymau?
>
> Diolch am eich cymorth.
|