Diolch am y cyfraniadau i gyd. Dwi'n meddwl y cadwa'i at fy nghynnig
gwreiddiol. Doeddwn i ddim yn hapus gyda 'chroenddu' chwaith, ond am weld
beth oedd ymateb pawb arall. Mae'r drafodaeth wedi bod yn ddiddorol dros
ben - ac yn annisgwyl. Diolch!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 19, 2001 3:30 PM
Subject: Re: Association of Black Senior Management
Diddorol iawn. Fel y dywedsoch, mae'r cyd-destun diwylliannol yn
holl-bwysig. Er enghraifft, rwy'n nabod pobl o Ogledd yr India sy'n ystyried
pobl o'r De yn 'Ddu', ond nid nhw'u hunain. Fe fues i mewn ysgol breswyl
lle'r oedd bechgyn o Sieina a ystyriai'u hunain yn ddinesyddion o'r 'Deyrnas
Ganol', a gweddill y ddynolryw yn aelodau o ryw lwythau anwaraidd yn llechu
ar ymyl y byd gwareiddiedig. Yn yr Ynysoedd yma, mae ein parchus cymdogion
yn dueddol i gymryd yn ganiataol bod pob un arall yn awyddus i fod yn Sais,
ac yn synnu nad ydy pawb ddim yn derbyn hyn fel y clod uchaf posib. (Fe
daenir y syniad hwn i rannau eraill o'r byd hefyd: roedd cyfaill gyda fi yn
yr Iseldiroedd oedd yn methu'n lān ā gweld pam nad oeddwn yn hapus gyda'i
arfer o ddodi 'ENGLAND' ar ddiwedd fy nghyfeiriad. Mewn fflach o
ysbrydoliaeth, fe ysgrifennais 'DEUTSCHLAND' ar ddiwedd ei gyfeiriad ef, ac
fe ddiflanodd y broblem ar unwaith). Fodd bynnag, mae angen i fod yn effro
ac y ymgynghori gydag unrhyw bobl a effeithir gan ddefnydd o derm.
Tim
-----Original Message-----
From: R.R. Fenton [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Monday, November 19, 2001 3:26 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Association of Black Senior Management
Ym Mhrydain mae Black bellach yn gallu golygu Affro-Caribiaidd,
Affricanaidd, Asiaidd (h.y. Indiaidd/Pacistanaidd, ayyb.), a hyd yn oed
Tseiniaidd/Siapaneiaidd, ayyb. Mae'n dibynnu ar y cyd-destun. Gan amlaf
pobl sydd a'u tarddiad o Affrica sydd dan sylw, ond yn aml iawn mae'n
cynnwys pobl o'r isgyfandir Indiaidd hefyd. Mae pobl Affro-Prydeinig yn fwy
awyddus i gynnwys y lleill o dan yr ymbarel Du nag ydy'r lleill i ymuno a*
nhw yna. Yn aml, mae pobl o'r isgyfandir Indiaidd yn anhapus i gael eu
hysyried fel Du; gwell gan lawer ohonynt fod yn Asiaidd. Ac mae'r Tseiniaid
yn eu hystyried gan amlaf fel Tseiniaid, nid fel Du neu fel Asiaid. (Mae
hyn yn dod o'r anfodlondeb cael eu dosbarthu gyda phobl Affricanaidd - mae
tipyn o hiliogaeth y tu mewn i'r gymuned nid-gwyn). Term politicaidd yw
Du/Black ym Mhrydain, yn hytrach na therm "biolegol". Y mae fy mab (Maori)
a finnau (Iroquois) yn ein hystyried fel Du yma, ond dydym ni ddim yn Black
yn yr UDA. Ond mae fy mhlant eraill, sydd i gyd yn rhannol
gwaed-Affricanaidd, yn Ddu yma ac yn Black yr UDA.
Go figure!
Roger (ex Seattle)
At 09:23 19/11/01 -0500, you wrote:
>Beth yw "Black" yma? Ydy e fel "African American" yn yr UDA?
>
>Diolch yn fawr o UDA.
>
>Elizabeth
>
>>Duon?
>>Croenddu?
>>
>>Gwell gwirio gyda rhyw bobl berthnasol bethh fyddai'n fwyaf derbyniol.
>>
>>Tim
>>
>>-----Original Message-----
>>From: catrin alun [mailto:[log in to unmask]]
>>Sent: Monday, November 19, 2001 12:45 PM
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Association of Black Senior Management
>>
>>
>>Cymdeithas Uwch Reolwyr Du?
>>Oes rhywun ag awgrym arall?
>>
>>Diolch
>>Catrin
>
>
>--
>=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=
>Elizabeth J. Pyatt, Ph.D.
>Instructional Designer
>Penn State University
>[log in to unmask], (814) 865-0805
>
>228A Computer Building
>University Park, PA 16801
>http://www.personal.psu.edu/ejp10
>
>
|