Ym Mhrydain mae Black bellach yn gallu golygu Affro-Caribiaidd,
Affricanaidd, Asiaidd (h.y. Indiaidd/Pacistanaidd, ayyb.), a hyd yn oed
Tseiniaidd/Siapaneiaidd, ayyb. Mae'n dibynnu ar y cyd-destun. Gan amlaf
pobl sydd a'u tarddiad o Affrica sydd dan sylw, ond yn aml iawn mae'n
cynnwys pobl o'r isgyfandir Indiaidd hefyd. Mae pobl Affro-Prydeinig yn fwy
awyddus i gynnwys y lleill o dan yr ymbarel Du nag ydy'r lleill i ymuno a*
nhw yna. Yn aml, mae pobl o'r isgyfandir Indiaidd yn anhapus i gael eu
hysyried fel Du; gwell gan lawer ohonynt fod yn Asiaidd. Ac mae'r Tseiniaid
yn eu hystyried gan amlaf fel Tseiniaid, nid fel Du neu fel Asiaid. (Mae
hyn yn dod o'r anfodlondeb cael eu dosbarthu gyda phobl Affricanaidd - mae
tipyn o hiliogaeth y tu mewn i'r gymuned nid-gwyn). Term politicaidd yw
Du/Black ym Mhrydain, yn hytrach na therm "biolegol". Y mae fy mab (Maori)
a finnau (Iroquois) yn ein hystyried fel Du yma, ond dydym ni ddim yn Black
yn yr UDA. Ond mae fy mhlant eraill, sydd i gyd yn rhannol
gwaed-Affricanaidd, yn Ddu yma ac yn Black yr UDA.
Go figure!
Roger (ex Seattle)
At 09:23 19/11/01 -0500, you wrote:
>Beth yw "Black" yma? Ydy e fel "African American" yn yr UDA?
>
>Diolch yn fawr o UDA.
>
>Elizabeth
>
>>Duon?
>>Croenddu?
>>
>>Gwell gwirio gyda rhyw bobl berthnasol bethh fyddai'n fwyaf derbyniol.
>>
>>Tim
>>
>>-----Original Message-----
>>From: catrin alun [mailto:[log in to unmask]]
>>Sent: Monday, November 19, 2001 12:45 PM
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Association of Black Senior Management
>>
>>
>>Cymdeithas Uwch Reolwyr Du?
>>Oes rhywun ag awgrym arall?
>>
>>Diolch
>>Catrin
>
>
>--
>=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=-=
>Elizabeth J. Pyatt, Ph.D.
>Instructional Designer
>Penn State University
>[log in to unmask], (814) 865-0805
>
>228A Computer Building
>University Park, PA 16801
>http://www.personal.psu.edu/ejp10
>
>
|