Rwyn aelod o'r gymuned Du ym Mhrydain (tad i bedwar o blant du). Mae Du yn
well na Croenddu (sydd yn teimlo mwy tebyg i "coloured", ac felly ddim ym
dderbyniol), ac rwyn gweld Duon (ans. llu.) erbyn hyn fel addas i enwau
cyffredin, ond nid mewn enw cyfundrefn. Pan siaradwn am y gymuned du,
dwedwn pobl du, plant du, meddygon du, cyfreithwyr du, gwleidyddion du,
ayyb. Mae Lliw yn cael ei ddefnyddio hefyd, ond eto, mae fel "coloured".
O'r tri chynnig erbyn hyn (Du, Duon, Croenddu), teimlaf mai Du yw'r gorau.
Ond ar a llaw arall, mae'n swnio braidd yn "foel"! Fyddai Cymdeithas
Rheolwyr Du Uwch yn dderbynniol fel cystrawen Cymraeg?
At 12:54 19/11/01 -0000, you wrote:
>Duon?
>Croenddu?
>
>Gwell gwirio gyda rhyw bobl berthnasol bethh fyddai'n fwyaf derbyniol.
>
>Tim
>
>-----Original Message-----
>From: catrin alun [mailto:[log in to unmask]]
>Sent: Monday, November 19, 2001 12:45 PM
>To: [log in to unmask]
>Subject: Association of Black Senior Management
>
>
>Cymdeithas Uwch Reolwyr Du?
>Oes rhywun ag awgrym arall?
>
>Diolch
>Catrin
>
>
|