Cytuno hefyd - mi oedd e'n swnio'n hollol od. Dylai'r cyfieithydd (neu'r
sawl oedd yn ei baratoi ar gyfer ei recordio), er iddo/iddi gyfieithu'n
hollol gywir, fod wedi gwneud yn siwr y byddai'r trosleisydd yn dweud y
'Deyrnas Unedig' yn llawn (neu 'ym Mhrydain' pe bai hynny wedi bod yn
bosib). Diffyg cyfathrebu o'r ddesg i'r 'stafell recordio efallai? Mae
sgriptio yn broses wahanol i gyfieithu dogfen bapur a biti na chafodd y
broses honno mo'i goruchwylio!
Non Gwenhwyfar Tudur
Cyfieithydd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
* Ffôn: 01766 772222
* E-bost: [log in to unmask]
> -----Original Message-----
> From: Sian Roberts [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Wednesday, November 14, 2001 11:42 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: DU
>
> Cytuno! Mae hefyd yn cyfeirio at enw'r cynllun fel "D.U. ar-lein" ac mae'r
> wefan yn ddryslyd braidd - weithiau'n dweud "UK online" ac weithiau "UK
> ar-lein online"
>
> ----- Original Message -----
> From: Kenneth Owen <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, November 14, 2001 11:03 AM
> Subject: Re: DU
>
> Mae Glenys yn iawn - 'yn y D.U.' a ddywedir yn yr hysbyseb, nid 'yn
> y DU' (in the black!).
>
> Ken Owen
> Marian-glas
>
> -----Original Message-----
> From: Glenys Roberts < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]> <
> [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> Date: 14 November 2001 10:39
> Subject: Re: DU
>
>
> Beth am 'yn y D.U.'?!
>
> Glenys
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Kenneth Owen
> <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, November 14, 2001 10:15 AM
> Subject: DU
>
> Mae yna hysbyseb Gymraeg yn ymddangos ar S4C ar hyn
> o bryd sy'n cyfeirio at hyn a hyn o bobl yn mynd 'ar lein yn y DU' ac yn
> gwario ffortiwn.
>
> Mae rhywun yn hen gyfarwydd â chlywed 'in the UK' yn
> Saesneg ond mae'n chwithig dros ben clywed 'yn y DU' yn Gymraeg.
>
> Beth fyddai'n fwy Cymreig? A fyddai 'ym Mhrydain';
> 'yng ngwledydd Prydain'; 'yn y Deyrnas Unedig/Deyrnas Gyfunol'?
>
> Mae gweld 'yn y DU' mewn dogfennau yn un peth, ond
> mae ei glywed ar goedd yn fater arall.
>
> Ken Owen
> Marian-glas
>
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|