Y mae rhywbeth i'w ddweud dros wahaniaethu. Yng Ngogledd Rhydychen, mae'r
llwybrau seiclo a'r palmentydd yn gweu dros ei gilydd o dro i dro wrth
gerdded i fyny drwy Drehafod, ac mewn mannau maenr yn mynd drwy lwyni a
pherthi. Yn y lleoedd hynny, mae arwyddion yn dweud 'BEWARE PEDESTRIANS'.
Beth yw'r ystyr, 'Gwyliwch rhag cerddedwyr', ynteu 'Gwylich, gerddedwyr!'.
Mae profiad chwerw yn f'ysgogi i ffafrio'r ail. Ond fe fyddai'n braf cael
sicrwydd.
Tim
-----Original Message-----
From: Crowe, Richard (OPO) [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Friday, November 09, 2001 10:33 AM
To: [log in to unmask]
Subject: arwyddion ffyrdd
Tybed beth yw barn y cylch ar ddefnyddio'r treglad meddal cyfarchiol ar
arwyddion ffyrdd? Beth sy'n gywir am (Drivers of long vehicles phone before
crossing?
Gyrwyr cerbydau hir ffoniwch cyn croesi
neu
Yrwyr cerbydau hir ffoniwch cyn croesi
Beth am arwyddion sydd fel petaent yn cyfarch wrthrychau di-fywyd? E.e.
(Goods vehicles stop if directed)
Cerbydau nwyddau stopiwch os gofynnir i chi
neu
Gerbydau nwyddau stopiwch os gofynnir i chi
Ydy'r ddwy linell uchod yn dweud rhywbeth gwahanol?
Oherwydd y rheolau sy'n pennu fformat arwyddion ffyrdd, nid yw'n bosibl
defnyddio 'dashes' 'colons' etc.
A oes angen y treiglad meddal cyfarchiol ai peidio? Os nad oes ei angen,
beth yw'ch rhesymau?
Diolch am eich cymorth.
|