Y broblem, hyd y gwela i, yw bod cymaint o ddefnyddio llac yn Saesneg ar
eiriau fel 'support'. Gall 'we are supporting a programme' olygu 'yr ydym yn
cefnogi rhaglen', 'yr ydym yn cynnal rhaglen', 'yr ydym yn cynorthwyo/helpu
rhaglen' neu 'yr ydym yn rhoi/darparu cymorth/help i raglen'. Gall pob un
o'r cyfieithiadau hyn fod yn gywir mewn achos penodol, ond gallai gamliwio'r
sefyllfa hefyd. Mae'r cyfan yn dibynnu ar y cyd-destun a'r union
amgylchiadau. Weithiau, bydd hi'n talu i'r cyfieithydd ffonio'r cwsmer i
holi ...
O ran 'cynnal', y cyfieithiadau sydd gen i yw:
cynnal = to sustain, to conduct, to underpin
cynnal cwrs - to mount a course, to put on a course
cynnal prosiect/project - to operate/undertake a project
cynnal busnes - to carry on a business
cyfarfodydd sydd i'w cynnal - forthcoming meetings
cynhaliwyd y cyfarfod - the meeting took place
Go brin bod 'cynnal' yn yr un o'r enghreifftiau uchod yn golygu '(to)
support', ond fyddwn i ddim yn gwrthod derbyn bod 'cynnal' yn gyfieithiad
digon derbyniol mewn rhai cyd-destunau.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 07, 2001 3:50 PM
Subject: Re: unsupported credit approvals / soft drugs
> Berwyn Jones wrote:
> >
> > Y broblem sy'n codi wrth gyfieithu 'support' yw bod y Saesneg wedi
dechrau
> > ei drin fel enw diriaethol yn lle '(material/financial) assistance' neu
> > 'help'. Yn yr ystyr haniaethol, 'cefnogaeth' yw'r gair cywir yn y
Gymraeg.
> > Yn yr ystyr ddiriaethol, byddai 'cymorth' neu 'help' yn gywirach
> > cyfieithiad. Weithiau, wrth gwrs, gall 'support' fod yn fwriadol amwys a
> > golygu 'cefnogaeth a chymorth'!
>
> Beth am air "cynnal"? Ym mha cyd-destun mae o'n cael
> ei ddefnyddio am "support"?
>
> --Mark
>
|