Philosophus dixit.
Timotheus
-----Original Message-----
From: Kenneth Owen [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Friday, November 30, 2001 12:36 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Terfyniadau wr/wraig/ydd
Beth amser yn ôl bellach, fe ymddangosodd llythyr gan Urien Wiliam yng
nghylchgrawn Golwg dan y teitl 'Ffolineb Cywirdeb Gwleidyddol'.
Efallai y bydd ambell ddyfyniad yn fuddiol wrth drafod y terfyniadau
wr/wraig/ydd.
"...rwy' i'n gweld fod amwysedd ynghylch cenedl enwau'n poeni llawer o bobol
y dyddiau hyn, yn enwedig wedi i'r Comision Cyfleoedd Cyfartal fod mor ffôl
â honni fod geiriau sy'n gorffen yn '-wr' yn glygu dynion yn unig. Dyma
pam, mae'n debyg, y mae oriel Ffotogallery yn hysbysebu am
"gweinyddwr/wraig" heb sylweddoli nad oes angen y "wraig" o gwbwl gan mai'r
gair "gweinyddwr" sy'n wrywaidd nid y person fydd yn dal y swydd.
"Cyfarwyddwr" yw Ms Gwerfyl Pierce Jones, Pennaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg
- yr enw sy'n wrywaidd o ran cenedl, nid y ferch sy'n dal y swydd. Ai
pwysau diangen oddi wrth y Comisiwn bondigrybwll sy'n gyfrifol fod Prifysgol
Cymru Aberystwyth yn hysbysebu am "Rheolydd" cynhyrchiadau [sic]? Fe gân
nhw dipyn o job gan mai "regulator", h.y. peiriant rheoli yw "rheolydd", nid
"manager". Y gair cywir yw "rheolwr" - a all fod yn ddyn neu'n fenyw... Nid
cydraddoldeb yw gwthio "-ydd" arnom ond llurgunio'r Gymraeg."
Ken Owen
Marian-glas
|