Non sequitur.
Arfer cyffredin ymhob iaith yw defnyddio gair pob dydd mewn ffordd arbennig
ar gyfer rhyw grefft neu wyddor - e.e. 'cainc' ar gyfer alaw mewn cerdd
dant, 'port' yn Saesneg ar gyfer yr ochr o'r llong sydd i'r chwith wrth fod
rhywun edrych tua'r pen blaen, 'perroquet' yn Ffrangeg ar gyfer math o hwyl
(ond fy mod wedi anghofio p'un), ayyb. Wrth reswm, bydd gofyn am esboniad
mewn cromfachau ar gyfer y lleygwr a'r cyhoedd. Nid yw hyn yn annilysu'r
angen am derm cryno - wedi'r cyfan, llawfer yw pob jargon neu ieithwedd
arbenigol i raddau helaeth.
Mae'n hynod bwysig cadw hyn mewn cof wrth lunio termau ar gyfer sy'n
*ymddangos* yn rhwydd eu deall ac yn ddigon cyfarwydd, oherwydd yn aml iawn
bydd y gair 'syml' yn cyfleu cysyniad eithaf cymleth. Mae 'hub' yn
enghraifft arbennig o dda o hyn. Hwyrach y byddai 'canolgylch' yn gwneud y
tro, ond doeth o beth fyddai ymgynghori â nifer o wahanol bobl sy'n gweithio
yn y maes yn gyntaf, a mynd yn ôl atynt eto wedyn.
Yn anffodus, ni wnaethpwyd hyn bob tro yn y gorffennol, gyda'r canlyniad bod
rhai termau Cymraeg yn cymylu ystyr yn hytrach na'i gyfleu, ac weithiau'n
hollol gamarweiniol. Mae hyn yn sicr o rwystro defnydd o'r iaith yn y
meysydd dan sylw, gan y bydd y Saesneg bob tro yn llawer iawn mwy eglur a
dibynadwy. Drueni mawr pe baem ni'n cyflawni proffwydoliaeth Emrys ap Iwan
am y Gymraeg yn cael ei chladdu yn nhy'i chyfeillion.
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, November 27, 2001 11:01 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hub
Beth yw ein pwrpas wrth greu termau newydd? Ai bod yn gywir yn unig, ynteu
bod yn ddealladwy. Methiant yw cael pobl yn troi at y Saesneg oherwydd fod
y Gymraeg yn aneglur. Y delfryd i bobl droi at y Gymraeg a dweud "O, dyna
be' mae'r Saesneg yn trio'i gyfleu!"
Os nad ydyn ni'n deall 'hub', pa obaith sydd y bydd y darllenwyr yn deal
unrhyw un o'r cyfieithiadau? Mae angen rhyw fath o eglurhad, e.e
partneriaeth o ganolfannau dysgu (os dyna yw)
Byddwn i'n tueddu i roi 'partneriaeth o ganolfannau dysgu (hub [wedi'i
italeiddio])'. Byddai rhoi e.e. 'bothau (partneriaeth o ganolfannau dysgu)'
yn rhoi'r argraff mai term cyffredin, cydnabyddedig yw 'bothau'.
Weithiau mae holi'r cwsmer yn fodd iddo sylweddoli bod y Saesneg yn rhy
astrus a'i newid.
Derbyniaf fod 'hub' a 'centre' efallai'n golygu pethau gwahanol yma, ond
'does dim angen defnyddio dau air yn y Gymraeg bob amser oherwydd i'r
Saesneg wneud hynny. Cefais gofnodion yn ddiweddar oedd yn so+n am
'controlled and managed' a 'disasters and catastophic events'. Cefais
gytundeb rhwydd prif glerc y cofnodion i fodloni ar 'rheoli' a 'trychinebau'
.
Ann
|