Gwen Rice:
>
> Oes rhywun wedi dod ar draws unrhyw beth am V yn y Gymraeg, fel symbol
> 'Vegetarian'. Yn yr achos hwn hefyd, disgwylir i V gyfleu 'Vegan' hefyd'.
> diolch
> Gwen
Byddwn i'n dweud bod y defnydd o 'V' am 'Vegetarian' yn rhyngwladol. Mae
'na symbol cofrestredig hefyd sy'n seiliedig ar y llythyren 'V' - gyda
deilen ar un fraich ( http://www.ivu.org/evu/english/label/index.html ).
Mae 'V*' yn weddol cyffredin i ddynodi pethau addas i figaniaid ( ar
fwydlenni ayb ). Mae'r blodyn haul yn cael ei ddefnyddio fel symbol
weithiau. Mae nod masnach gan "The Vegan Society" sy'n cyfuno'r V
ddeiliog a'r blodyn haul (
http://www.vegansociety.com/html/products/trademarkholders/tmhome.html ).
Neil Shadrach
|