Beth fyddai'r ffordd orau o drosi'r term yma yng nghyd-destun hanes Pwyl cyn
y Trydydd Rhaniad? Konfederacja yw'r term brodorol, yn golygu math o gyfamod
rhwng dinesyddion er mwyn amddiffyn eu hawliau - yn debyg iawn i'r ionradh
yng Nghyfraith Iwerddon ers talwm iawn. Mi wn fod 'Cydffederasiwn' wedi cael
ei ddefnyddio ar gyfer mudiadau fel y CBI, a 'Cyngrair' a arferai Cymry Oes
Victoria ar gyfer y Confederacy a ffurfiodd rhai Taleithiau Americanaidd
wedi cilio o UDA, ond rhywbeth hollol wahanol yw hyn. Tybed a fyddai
'Conffederasiwn' yn Gymreigiad digon sâff?
Tim
|