Diolch Dean, a diolch i'r wraig! Alla i ddim defnyddio 'pensiwn personol'
na 'phensiwn preifat' am fod y term 'money purchase pension' yn digwydd yng
nghanol trafodaeth am bensiynau personol. Ond mae'n amlwg mai prynu'r
pensiwn yn hytrach na phrynu'r arian yr ydych! Y cymhlethdod yn y term
Saesneg yw'r defnydd o 'money' a 'purchase' efo'i gilydd. Ro'n i wedi
meddwl am 'pensiwn a brynir ag arian' ... ond wedyn, â beth arall rydach
chi'n prynu unrhyw beth ... Mae pensiwn buddsoddi yn syniad ... 'pensiwn
buddsoddi arian'?? (yn hytrach na blynyddoedd o yrfa ...)
Glenys
|