Mae'n beth od, ond roeddwn i'n trafod cyfieithu bwydlenni echdoe - ac fe
ddwedais i nad oeddwn i'n gweld pwynt i'r geiriau rhyfedd 'ma mewn bwydlenni
Saesneg - a panfried oedd un ohonyn nhw! Dwi wedi defnyddio ffrïo cyn hyn,
ond efallai y dylen ni ddweud 'wedi ei ffrïo mewn padell' neu 'o'r badell
ffrïo' er mwyn gwahaniaethu rhwng pethau sydd wedi eu ffrïo'n ddwfn (deep
fried ?? - unrhyw awgrymiadau!!).
Catrin
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 12, 2001 9:05 AM
Subject: panfried
> Oes gan unrhyw un derm am 'panfried' os gwelwch yn dda heblaw 'ffrio'?
> Diolch
> Gwen
|