Pan ddefnyddiais y term 'allffynonellu' o'r blaen fe wnes ofyn am
ddiffiniad neu eglurhad o 'outsourcing' gan gydweithiwr sydd
yn gweithio yn y byd rheolaeth/cefnogi busnes. Fel y deallaf, mae ystyr mwy
penodol i 'outsourcing' na phrynu'n allanol. Hynny
yw, mae'n golygu prynu gwasanaeth o'r tu allan yr arferid ei ddarparu'n
fewnol.
Meinir
Kenneth Owen <[log in to unmask]>@JISCMAIL.AC.UK> on
02/10/2001 15:16:28
Please respond to Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary including
<[log in to unmask]>
Sent by: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
including <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
cc:
Subject: Re: outsourcing
Fel y byddai Dafydd Glyn Jones yn dweud, y mae 'allfynonellu' yn gamel o
air. I mi, mae'n ymgais i greu gair pan nad oes dim angen gwneud hynny o
gwbl. Hyd yn oed petai raid defnyddio dau neu dri o eiriau i gyfleu ystyr
'outsourcing', y mae'n ganmil gwell na bathu gair na fydd neb bron yn ei
ddefnyddio yn y pen draw.
Oni fyddai 'prynu'n allanol' yn well cynnig, ynteu a yw hynny'n rhy
benodol?
Ken Owen
Marian-glas
-----Original Message-----
From: John D Williams <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<[log in to unmask]>
Date: 02 October 2001 14:52
Subject: outsourcing
>Mewn Astudiaethau Busnes Safon Uwch, ceir
>
>"Such outsourcing of operations may include marketing research,
>recruitment and product development and gives the firm
>greater flexibilty to meet changing market conditions."
>
>Os oes rhaid bathu term, beth am allffynonellu? Oes gan rywun
>wrthwynebiad?
>
>John.
>
Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a enwir yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os ydych wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred yn seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar unwaith os gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw feirws meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y bo'r angen cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon.
This electronic mail transmission is intended for the named recipients only. It may contain private and confidential information. If this has come to you in error you must take no action based upon it, nor must you copy it or show it to anyone; please telephone us immediately and return the original to us. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses. It is your responsibility to carry out such virus checking as is necessary before opening any attachment which may be included with this message.
|