Rwy'n cymryd bod y mwyafrif o'r rhai sy'n perthyn i'r cylch cyfrin hwn yn
gwybod am fodolaeth dau gyhoeddiad y Comisiwn Cyfle Cyfartal, sef 'Cyfieithu
Cydraddoldeb' a'r 'Rhestr o Dermau Safonol Cymraeg ym maes Cyfle Cyfartal',
ond wrth gyfieithu dogfen yn y maes yn ddiweddar fe ddes ar draws dyrnaid o
ymadroddion digon astrus. Gan fy mod i wedi cael cyngor Gwen Awbery
(Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd) a Nia Morgan (Y Comisiwn Cyfle
Cyfartal), hoffwn gyflwyno'r cyfieithiadau isod er gwybodaeth:
1. Gender-disaggregated statistics = Ystadegau sydd wedi'u dad-agregu ar
sail rhyw
2. Engendered budgets = Cyllidebau sy'n cymryd anghenion y ddau ryw i
ystyriaeth
(Mae'n debyg bod yma rywfaint o gamddefnyddio ar y berfenw Saesneg 'to
engender' ac efallai y byddai 'gendered' wedi bod yn well dewis, ond
'engendered' yw'r gair a arferir bellach.)
3. Yn yr un maes, cafwyd y pennawd 'Visioning'.Er na fydda i'n bathu
geiriau'n aml, cynigiais 'gweledigaethu' ar batrwm 'gweinidogaethu', a hyd
yn hyn does neb wedi cynnig ei well ...
Hyn, fel y dywedais, er gwybodaeth - a diolch i Gwen a Nia am eu cyngor!
Berwyn
|