On Wed, Oct 17, 2001 at 01:59:54PM +0100, Berwyn Jones wrote:
> Rhag i Dafydd anobeithio'n llwyr, gwell ei sicrhau nad oes gan y Saesneg,
> ychwaith, gysondeb llwyr o ran sillafu a bod digon o enghreifftiau'n bod
> ynddi lle mae'r orgraff yn ddigon clir ond nad yw dyn yn gwybod sut mae
> ynganu'r gair!
Digon teg. Hyd yn oed heb acenion mae'n hawdd dweud: "Mae hi mor braf
wrth lan y mor.". Mae'n siwr fod hi'n ddryslyd i ddysgwyr ond mae'r
cyd-destun yn esbonio. Aeth ffrind i mi (sais) ar gwrs WLPAN a mi
roedd e'n credu fod Cymraeg yn gymharol hawdd oherwydd fod ynganiad
geiriau yn ffonetig. Beth oedd yn ei ddrysu oedd sut i ymateb i
gwestiynau - Ydi/Ydw/Oes/Ie felly roedd e'n ateb 'Ie' neu 'Na' i
bopeth.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|