Dydy'r sodlau hyn ddim yn rhai peryglus o gwbl! Dim angen cael cathod bach
o gwbl - fe anghofiais ddwud mai rhyw fodfedd i fodfedd a hanner yw eu
huchder!
Beth am 'sodlau grwndi' ! :o) (Cyfuno'r cathod bach a'r siāp i raddau).
Catrin
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 15, 2001 1:48 PM
Subject: kitten heels
> Rhaid dweud mai 'sodlau cathod bach' fyddai'n taro orau i mi (fel un sy'n
> gwybod dim am y maes) gan fod y term hwn yn awgrymu bod y sawl sy'n eu
> gwisgo yn cael cathod bach wrth wneud hynny ... O ran 'sodlau cromfach',
> beth petai rhywun yn rhywle yn dyfeisio math newydd o sawdl ac yn ei alw'n
> 'bracket heel'?
>
> Berwyn
|