Mae sawl ffordd bosibl o gyfieithu hwn:
Yn y frawddeg 'We need to enhance/increase our client base':
1. (llac/llafar) Mae angen i ni gynyddu'n cleientau/cleientiaid
2. (ar bapur, neu i holltwyr blew fel fi) Mae angen i ni gynyddu nifer ein
cleientau/cleientiaid, neu: Mae angen i ni gynyddu nifer y
cleientau/cleientiaid sydd gennym, neu: Mae angen i ni gael/ddenu
rhagor/mwy/ychwaneg o gleientau/cleientiaid
3. Fel term ar ei ben ei hun, sy'n fwy 'technegol' (neu chwyddedig!): cronfa
o gleientau/cleientiaid
Gyda llaw, gall y gair 'cronfa' gyfieithu amryw byd o eiriau Saesneg lled
dechnegol, e.e.:
linguistic armoury - cronfa ieithyddol
a bank of resources - cronfa o adnoddau
a toolkit/toolbox of software - cronfa o feddalwedd
a repertoire of skills - cronfa o sgiliau/fedrau
a battery of techniques - cronfa o dechnegau
Gair defnyddiol iawn!
Berwyn Jones
|