Mae'n amlwg fod nifer o ystyron gwahanol yn cuddio dan y term 'outreach' yn
Saesneg. Dydi hi ddim yn bosib felly defnyddio'r un cyfieithiad Cymraeg bob
tro. Byddwn i'n hoffi gwybod yn union pa fath o waith y mae disgwyl i'r
'outreach support officer' yma ei wneud.
Yn y Termau Bydwreigiaeth (ISBN 38 1 84220 020 8) defnyddir 'clinig yn y
gymuned' am 'outreach clinic' gan fod y bydwragedd yn mynnu nad yw'r
clinigau hyn yn eu maes hwy yn ddim byd mwy neu lai na hynny.
Yn Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol (ISBN 1 85719 211 7) defnyddir 'gwaith
estyn allan' am 'outreach work' achos yn y maes hwn ystyr 'outreach' ydi
gweithio'n rhagweithiol i estyn allan a chyrraedd pobl sy'n disgyn drwy
rhwyd darpariaeth arferol y gwasanaeth.
Mae hyn wrth gwrs yn gwneud gwaith y cyfieithydd yn fwy cymhleth, ond y
neges unwaith eto mae'n debyg yw na ellir cyfieithu air am air heb ofyn beth
yw ystyr y gair/ymadrodd gwreiddiol.
Delyth Prys
----- Original Message -----
From: teulu lewis <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, September 09, 2001 7:00 PM
Subject: Re: Outreach Support Officer
> I Glenys - diolch am y rhestr dewisiadau - diddorol a defnyddiol iawn -
> gallaf beidio crafu fy mhen rwan pan gyfyd yr ymadrodd mewn rhyw ddarn, a
> chymunedol yn bendant ddim yn gweddu
> magi
> ----- Original Message -----
> From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Sunday, September 09, 2001 03:44
> Subject: Re: Outreach Support Officer
>
>
> > Y dewisiadau:
> > 1. 'Yn y gymuned' - y rhesymeg yn ddigon teg - ond nad yw pob gwaith yn
y
> > gymuned yn waith 'outreach', na phob gwaith 'outreach' yn waith yn y
> gymuned
> > yn yr ystyr arferol i'r gair 'cymuned': h.y. gallech gael gwaith
> 'outreach'
> > a ganolbwyntiai ar ysgolion, er enghraifft. Heb wybod y cyd-destun yn
> > union, fyddai hwn ddim yn ddigon penagored!
> > 2. 'Allanol' yn bur gyffredin am 'outreach' bellach. Syniad digon tebyg
> > sydd yn 'Efrydiau Allanol' am wn i.
> > 3. Term arall rydw i wedi ei glywed ydy 'ymestyn' - oedd gan y Cyngor
> > Llyfrau 'Gynllun Ymestyn' yn y gorffennol?
> > 4. Termau Addysg B.yrI. yn cyfuno 2. a 3. - 'outreach and franchise
> > provision' = 'darpariaeth allymestyn a breiniol'.
> > 5. Rhestr termau Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi 'allanwaith'.
> >
> > A dweud y gwir, o'r pum dewis amherffaith hyn, rwy'n dal i ffafrio
> 'allanol'
> > a 'gwaith allanol'.
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: teulu lewis <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Friday, September 07, 2001 8:57 PM
> > Subject: Re: Outreach Support Officer
> >
> >
> > > Dyma sy'n digwydd pan fyddwn yn defnyddio'r termau benthyg crand yma,
er
> > > iddynt hen ennill eu plwyf yn yr iaith wreiddiol. Byddaf weithiau yn
> > > defnyddio - yn y gymuned - neu - cymunedol - yng nghyd-destun
gwaith
> > neu
> > > wasanaethau outreach. Nid yw gwaith allanol yn cyfleu fawr am natur y
> > gwaith
> > > bob tro - ac yn waeth na hynny mae outreach ac allanol yn rhoi'r neges
> > > anghywir i'r cymunedau pellennig hyn, waeth be sy'n achosi iddynt fod
> > beyond
> > > the pale yn y lle cyntaf! Os yw'n briodol beth am swyddog cefnogi
> > > gwaith/gwasanaethau yn y gymuned?
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Llinell Gyswllt" <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Friday, September 07, 2001 02:24
> > > Subject: Outreach Support Officer
> > >
> > >
> > > Annwyl Gyfeillion,
> > >
> > > Byddwn yn ddiolchgar am awgrymiadau - teitl swydd ar gyfer mudiad
> > > gwirfoddol.
> > >
> > > Diolch am bob cymorth,
> > > Rhodri
> > >
> > > Rhodri Llwyd Morgan
> > > Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth / Research & Information Officer
> > > Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
> > > Fftn/tel: 029 2087 8000. Ffacs/fax: 029 2087 8001
> > > E-bost/e-mail: [log in to unmask]
> > >
> > >
> > >
> > > ****************************************************
> > >
> > > Llinell Gyswllt b'r Gymraeg/LinkLine to Welsh
> > > DU/UK: 0845-607-6070
> > > Tramor/Abroad: +44-(0)29-2087-8004
> > > [log in to unmask]
> > >
> > > ****************************************************
> >
>
|