I Glenys - diolch am y rhestr dewisiadau - diddorol a defnyddiol iawn -
gallaf beidio crafu fy mhen rwan pan gyfyd yr ymadrodd mewn rhyw ddarn, a
chymunedol yn bendant ddim yn gweddu
magi
----- Original Message -----
From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, September 09, 2001 03:44
Subject: Re: Outreach Support Officer
> Y dewisiadau:
> 1. 'Yn y gymuned' - y rhesymeg yn ddigon teg - ond nad yw pob gwaith yn y
> gymuned yn waith 'outreach', na phob gwaith 'outreach' yn waith yn y
gymuned
> yn yr ystyr arferol i'r gair 'cymuned': h.y. gallech gael gwaith
'outreach'
> a ganolbwyntiai ar ysgolion, er enghraifft. Heb wybod y cyd-destun yn
> union, fyddai hwn ddim yn ddigon penagored!
> 2. 'Allanol' yn bur gyffredin am 'outreach' bellach. Syniad digon tebyg
> sydd yn 'Efrydiau Allanol' am wn i.
> 3. Term arall rydw i wedi ei glywed ydy 'ymestyn' - oedd gan y Cyngor
> Llyfrau 'Gynllun Ymestyn' yn y gorffennol?
> 4. Termau Addysg B.yrI. yn cyfuno 2. a 3. - 'outreach and franchise
> provision' = 'darpariaeth allymestyn a breiniol'.
> 5. Rhestr termau Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi 'allanwaith'.
>
> A dweud y gwir, o'r pum dewis amherffaith hyn, rwy'n dal i ffafrio
'allanol'
> a 'gwaith allanol'.
>
> ----- Original Message -----
> From: teulu lewis <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 07, 2001 8:57 PM
> Subject: Re: Outreach Support Officer
>
>
> > Dyma sy'n digwydd pan fyddwn yn defnyddio'r termau benthyg crand yma, er
> > iddynt hen ennill eu plwyf yn yr iaith wreiddiol. Byddaf weithiau yn
> > defnyddio - yn y gymuned - neu - cymunedol - yng nghyd-destun gwaith
> neu
> > wasanaethau outreach. Nid yw gwaith allanol yn cyfleu fawr am natur y
> gwaith
> > bob tro - ac yn waeth na hynny mae outreach ac allanol yn rhoi'r neges
> > anghywir i'r cymunedau pellennig hyn, waeth be sy'n achosi iddynt fod
> beyond
> > the pale yn y lle cyntaf! Os yw'n briodol beth am swyddog cefnogi
> > gwaith/gwasanaethau yn y gymuned?
> > ----- Original Message -----
> > From: "Llinell Gyswllt" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Friday, September 07, 2001 02:24
> > Subject: Outreach Support Officer
> >
> >
> > Annwyl Gyfeillion,
> >
> > Byddwn yn ddiolchgar am awgrymiadau - teitl swydd ar gyfer mudiad
> > gwirfoddol.
> >
> > Diolch am bob cymorth,
> > Rhodri
> >
> > Rhodri Llwyd Morgan
> > Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth / Research & Information Officer
> > Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
> > Fftn/tel: 029 2087 8000. Ffacs/fax: 029 2087 8001
> > E-bost/e-mail: [log in to unmask]
> >
> >
> >
> > ****************************************************
> >
> > Llinell Gyswllt b'r Gymraeg/LinkLine to Welsh
> > DU/UK: 0845-607-6070
> > Tramor/Abroad: +44-(0)29-2087-8004
> > [log in to unmask]
> >
> > ****************************************************
>
|