On Fri, Jul 20, 2001 at 03:38:08PM +0100, Delyth Prys wrote:
> Ystyr 'desktop' yn y cyd-destun cyfrifiadurol yw fod sgrin y cyfrifiadur
> bellach yn fwrdd lle rydym yn gwneud ein gwaith.
Na, ystyr 'desktop' (desktop computer a desktop publishing) yw'r
ffaith fod cyfrifiadur wedi dod yn ddigon bach a phwerus (yn yr 80au
cynnar) i ffitio ar 'ben' bwrdd ond gyda'r gallu i wneud tasgau fel
cysodi a chyhoeddi.
Mae 'desktop' ar y sgrin yn rhywbeth ddaeth fewn yn y 90au. Mae 'bwrdd
gwaith' yn derm eitha addas ar gyfer hwnnw.
Dwi wedi clywed y term 'cyhoeddi pen bwrdd' ers yr 80au hwyr.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|