'Dolydd gwair' a roddwyd am 'hay meadows' yng Nghynllun Bioamrywiaeth Lleol
Eryri, sef y canllaw cyntaf o'i fath ar gyfer gwarchod rhywogaethau a
chynefinoedd prin Cymru. Mae pob Cyngor ac Awdurdod cyhoeddus arall yng
Nghymru yn cael eu hannog i lunio un tebyg - mae rhai eisoes wrthi (e.e.
Gwynedd, Y Fflint ayb). Os hoffech gopi, mae'n weddol ddrud (tua pymtheg
punt) cysylltwch â Swyddfa Parc Eryri ym Mhenrhyndeudraeth ar 01766 770274.
Mae gwybodaeth am y Cynlluniau hyn ar wefan Brydeinig (yn Saesneg) yn
www.ukbap.org.uk.
Mae chwilod yn greaduriaid cymhleth iawn o ran eu henwau medda nhw yma i mi,
gan mai 'beetle' yn unig yw enw llawer ohonynt yn Saesneg, gydag enw Lladin
penodol am bob un. Mae'r ecolegydd yn dweud wrtha i mai chwilen sy'n hoffi
bwyta dail tafol yw hwn, ond mae'n ansicr o'r enw Lladin amdano; gallai fod
yn Chrysomelidae phaedon tumidulis neu'n rhywbeth arall. A wyddoch chi'r enw
Lladin amdano? Mi fyddai'n haws darganfod y cyfieithiad wedyn.
Mae gennym ni nifer o restrau termau byd natur yma, o nifer o ffynonellau
gwahanol. Yn bersonol, mi fyddwn yn cysylltu â Chymdeithas Edward Llwyd yn
uniongyrchol i holi am restrau a'r cyhoeddiadau sydd ar y gweill. Does gen i
mo'r rhif ffon, ond dyma'r cyswllt: Megan Bevan (Ysg), Y Blewyn Glas,
Porth-y-rhyd, Llanddarog, Sir Gaerfyrddin. Neu mi allech gysylltu â Phlas
Tan y Bwlch ar 01766 590324, fydd hwyrach yn gwybod y rhif.
Yn gywir
Non Tudur
Cyfieithydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
> -----Original Message-----
> From: Sian Jones [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Tuesday, April 17, 2001 4:02 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: hay meadows
>
> Ydy gweirgloddiau yn gyfieithiad manwl gywir o'r term hay meadows?
> Hefyd oes rhywun yn gwybod am gyfieithiad ar gyfer Green Dock Beetle?
> Pa deitlau sy'n bodoli yng Nghyfres Edward Llwyd - mae gen i'r un cyntaf -
> Creaduriaid Asgwrn Cefn.
>
> Hwyl a Diolch
> Sian
>
> Sian Eleri Jones
> Rheolwr Gwasanaethau Iaith
> Language Services Manager
> [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
> Ffôn 01239 711 668
> Ffacs 01239 711 698
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|