Yn ol fy ngeiriadur Saesneg, yr un ystyr gyfreithiol sydd i foreshore a
seashore - ydy 'glan y môr' neu 'draeth' yn dderbyniol fell?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
including [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Tim
Saunders
Sent: 25 April 2001 11:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: foreshore licence
On Tue, 24 Apr 2001 10:09:00 +0100, Delyth Prys <[log in to unmask]> wrote:
>Mae Rhestr Termau Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhoi 'blaendraeth'
am 'foreshore'.
>Mae'r rhestr hon yn cael ei pharatoi ar gyfer ei chyhoeddi ar hyn o bryd
gan y Ganolfan Safoni Termau.
>
>Gellid dehongli'r 'blaendraeth' yma i fod naill ai'n enidol (trwydded sy'n
perthyn i/ymwneud â'r blaendraeth) neu'n ansoddeiriol (math o drwydded).
Mae'n amlwg fod 'trwydded bysgota' a 'trwydded deledu' wedi cael eu
dehongli'n ansoddeiriol (mathau gwahanol o drwyddedau) ac felly
byddai 'trwydded flaendraeth' yn gweddu i'r patrwm hwn. Wrth gwrs petai sôn
am drwydded sy'n perthyn i flaendraeth arbennig e.e. 'trwydded blaendraeth
Llanbedrog', yna mae'r defnydd yn amlwg yn enidol yn y fan yna...
>
> ----- Original Message -----
> From: Gwen Evans
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, April 23, 2001 7:34 PM
> Subject: foreshore licence
>
>
> Trwydded sy'n rhoi'r hawl i gychod i ddefnyddio'r traeth - Trwydded
blaen traeth / Trwydded flaen traeth ? Mae 'trwydded bysgota ' a 'trwydded
deledu' yn swnio'n iawn. Ydy'r 'blaen traeth' yn ansoddeiriol hefyd, neu
ydw i wedi drysu? Diolch.
>
Beth fyddai'r ffordd orau o gyfieithu 'Persons taking sand from the
foreshore will be taken a poor view of'?
Tim
|