Mae Ann yn awgrymu/holi: 'tonfedd llydan'. Byddai 'tonfeddi llyda(i)n'
efallai'n well gan fod 'broad band' yn awgrymu ystod eang o donfeddi; nid
yw'n bosib i un tonfedd fod yn llydan. Yn Saesneg ceir 'broad frequency' yn
fwy mynych na 'broad wavelength' felly 'amleddau llydan'.
Serch hynny byddwn i'n cefnogi 'band llydan' - mae ei berthynas a^'r term
Saesneg yn fwy amlwg. Mae 'llydan' i mi yn well nag 'eang' oherwydd mai
so^n yr ydym am fesur pendant un dimensiwn. I'm canfyddiad i mae 'eang' yn
awgrymu rhywbeth llai pendant. (Rhywbeth 'ehangach' efallai!)
Yn yr un maes (fel mae neges Richard yn awgrymu) mae angen rhywbeth am
'bandwidth' hefyd.
OED ar lein: bandwidth, the interval separating the limits of a band
'lled y band' fyddwn i'n ei awgrymu.
Prys
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|