Yng nghyswllt Llyn Tegid, dwi wedi gweld, a defnyddio, alga/algâu gwyrdd-las
(ydy'r cysylltnod yn gywir?) yn y gorffennol. Dydw i ddim yn cofio be'
ddefnyddiwyd am 'bloom' rwan - dwi'n meddwl mai rwbeth fel 'tyfiant'
ddefnyddiwyd. Darn esboniadol ar gyfer y cyhoedd oedd ac felly mi ddaru ni
geisio cyfleu'r peth drwy beidio cyfieithu 'bloom' yn llythrennol air-am-air
os cofia i'n iawn - ond efallai nad oedd y cyfieithiad yn dechnegol-wyddonol
gywir o'r herwydd.
----- Original Message -----
From: Eirlys Williams <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 20, 2001 11:48 PM
Subject: blue-green algae
> Oes rhywun yn gallu helpu?
>
> Blue-green algae (cyanbacteria???)
>
> a hefyd Bloom a Scum, yn yr un cyswllt.
>
> Diolch
|