Onid Cinio Blynyddol y ffreutur yw e - nid fy mod yn awgrymu hwn fel
cyfieithiad, ond, ystyr 'mess' yw'r bobl sy'n cyd-fwyta â'i gilydd - eto y
mae arlliw bod 'mess' yn golygu'r bobl gyfyngedig sydd â'r hawl i gyd-fwyta
â'i gilydd, felly oni fyddai cyfieithiad fel 'Cinio Blynyddol Ffreutur y
Swyddogion ' yn gwneud y tro, gan gymryd mai cyfeirio at ginio swyddogion y
mae?
Yn ôl Immediate Action gan Andy McNab (a fu'n aelod o'r SAS) y mae Mess yn
gyfyngedig i rai pobl
'..Our hut was part of the Sergeants' mess, but unless we were a Regiment
[Special Air Force] corporal or above we couldn't use it, even though we
were still expected to pay the monthly fee the mess claimed [the author was
actually a sergeant in his original regiment but not in the S.A.S. and so
expected to pay as a sergeant but as he didn't hold that rank in the S.A.S.
he couldn't benefit from it].
Efallai y byddai defnyddio rhywbeth fel 'Clwb ciniawa' neu 'Clwb
cymdeithasu' neu 'Clwb ciniawa a chymdeithasu' yn rhoi'r arlliw cywir ar
gyfer 'mess'.
|